BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd ar borthladd Caergybi" - Ken Skates

people on a ferry

Gyda disgwyl i borthladd Caergybi ailagor yn rhannol heddiw (16 Ionawr) mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi pwysleisio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid.

Mae Stena wedi cyhoeddi bod atgyweiriadau wedi'u gwneud i'r porthladd a gafodd ei ddifrodi'n wael gan Storm Darragh ym mis Rhagfyr y llynedd sy'n golygu y gall llongau fferi nawr hwylio yn llawn.

Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Iwerddon ers cau'r porthladd dros dro.   Mae hyn wedi cynnwys cyfarfod y Prif Weinidog gyda'r Taoiseach yr wythnos diwethaf lle buont yn trafod effaith barhaus cau'r porthladd ar symudiad pobl a chludo nwyddau.

Er mwyn helpu i sicrhau gwydnwch hirdymor y porthladd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf y bydd tasglu yn cael ei sefydlu a fydd yn gweithio gyda Gweinidogion Trafnidiaeth Iwerddon, Llywodraeth y DU, Stena a sefydliadau allweddol eraill ym mhorthladdoedd Cymru ac Iwerddon a'r diwydiant fferi i sicrhau bod y porthladd yn diwallu anghenion y ddwy wlad yn y dyfodol.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: "Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd ar borthladd Caergybi" - Ken Skates | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.