BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Byw sero net: lleoedd arloesi

Gall busnesau cofrestredig yn y DU ac awdurdodau lleol wneud cais am gyfran o hyd at £2 filiwn i ddatblygu cynlluniau lleol manwl ar gyfer dulliau arloesol i ddatgloi rhwystrau systemig nad ydynt yn rhai technegol i gyflawni targedau sero net.

Nod y gystadleuaeth hon yw cefnogi hyd at 30 o leoedd i ddatblygu cynllun, gydag awdurdodau lleol, i gyflymu eu trawsnewidiad i sero net. 

Rhaid i chi ystyried y system sero net gyfan yn eich ardal chi, gan gynnwys:

  • pŵer
  • gwres
  • symudedd
  • cynhyrchu a defnyddio cynnyrch

Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i gydweithrediadau yn unig ac yn cau ar 30 Tachwedd 2022.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Competition overview - Net zero living: Pioneer places - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.