Bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach eleni yn cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn 4 Rhagfyr 2021.
Yn 2020, fe wnaeth y genedl ymdrech enfawr i gefnogi busnesau bach gan wario swm anhygoel o £1.1 biliwn mewn busnesau bach ar y diwrnod, y swm mwyaf erioed.
Y bwrid yw cefnogi, hyrwyddo ac ysbrydoli busnesau bach gydol y flwyddyn.
Anogir pob mathau o fusnesau bach i gymryd rhan, felly p’un ai ydych chi’n fusnes teuluol, yn siop leol, yn fusnes ar-lein, yn gyfanwerthwr, yn wasanaeth busnes neu’n gwmni gweithgynhyrchu bach, cofiwch fod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn eich cefnogi!
Cofiwch gadw llygad ar wefan Dydd Sadwrn y Busnesau Bach am ragor o gyhoeddiadau ar #SmallBiz100 a’r daith fysiau.