Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau newidiadau i'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru o ddydd Llun 3 Mai 2021.
O ddydd Llun 3 Mai:
- Gall campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden, sbas a phyllau nofio ailagor.
- Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig, gan ganiatáu i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen benodedig a fydd yn gallu cyfarfod a chael cyswllt dan do.
- Gall gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer plant ailddechrau, megis grwpiau a chlybiau chwaraeon, diwylliannol a hamdden ehangach. Ni chaniateir partïon pen-blwydd plant, neu gynulliadau ehangach o deuluoedd a ffrindiau mewn cartrefi preifat o hyd.
- Gall gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion hefyd ailddechrau i hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff a gwersi nofio.
- Gall Canolfannau Cymunedol ailagor.
Mae hyn yn golygu y bydd Cymru wedi gorffen symud i Lefel Rhybudd 3 erbyn 3 Mai 2021.
Disgwylir yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau coronafeirws erbyn 13 Mai 2021.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru.