BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadw Ffermwyr i Ffermio. Gwnewch yn siŵr ein bod yn gwybod eich barn – rydyn ni'n gwrando

Lambs in Eryri

Wrth i bythefnos olaf yr ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ddechrau, mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed.

Cafodd yr ymgynghoriad Cadw Ffermwyr i Ffermio ei lansio ym mis Rhagfyr, ac mae'n amlinellu cynigion sydd â'r nod o ddiogelu systemau cynhyrchu bwyd, sicrhau bod ffermwyr yn parhau i ffermio'r tir, diogelu'r amgylchedd a mynd i'r afael ar fyrder â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.

Bydd pob ymateb unigol i'r ymgynghoriad yn cael ei ystyried.  Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ynghylch y cynllun nes bod yr ymgynghoriad wedi dod i ben a'r ymatebion wedi cael eu hystyried.

Cafodd y cynigion hyn eu llywio gan yr adborth a gawson ni gan ffermwyr a'r diwydiant ehangach mewn tri ymgynghoriad ac yn nau gam y broses gydlunio.

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i'r cynllun mewn ymateb i'r adborth hwn, gan gynnwys sicrhau bod y cynllun ar gael i bob ffermwr yng Nghymru o 2025 ymlaen, cyflwyno'r Gweithredoedd Opsiynol a'r Gweithredoedd Cydweithredol fesul cam a sicrhau bod y gweithredoedd yn gymesur ac yn briodol i ffermio yng Nghymru. 

Mae'r newidiadau hefyd yn cynnwys addasiadau i'r cynnig ar gyfer gofyniad am orchudd coed o deg y cant o leiaf, sy'n cynnwys coed presennol ac ardaloedd lle mae coed newydd wedi cael eu plannu. Mae newidiadau wedi cael eu gwneud er mwyn diwallu anghenion ffermwyr tenant, ac ni fyddai'r gofyniad yn cael ei gyflwyno tan 2030, gan roi amser i ffermwyr addasu, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.  Ni fyddai cosb ôl-weithredol pe na bai ffermwyr wedi cyrraedd y targed o ddeg y cant.

Mae deg Sioe Deithiol (30 sesiwn gyflwyno) wedi cael eu cynnal ledled Cymru ers mis Ionawr, gan siarad â dros 3,200 o ffermwyr am yr ymgynghoriad.

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 7 Mawrth 2024 ac mae ar gael yma: Cynllun Ffermio Cynaliadwy - Cadw Ffermwyr i Ffermio


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.