Bydd CThEM yn egluro canllawiau cyfredol ac yn ateb cwestiynau cyffredinol am y cynnwys ond allan nhw ddim ateb cwestiynau penodol ynghylch yr eitemau rydych chi’n eu mewnforio neu yn eu hallforio yn ystod y gweminarau. Mae’r gweminarau yn cael eu cynnal sawl gwaith felly dewiswch ddyddiad ac amser sy’n gyfleus i chi:
- Mewnforio – y camau sydd angen i chi eu cymryd cyn gwneud eich datganiad atodol – cael cyngor ar sut i wneud datganiad atodol a sut gall cyfryngwyr helpu
- Datganiadau Mewnforio Tollau: trosolwg – o holl broses datganiadau
- Allforio: yr hyn sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch nwyddau i symud – sy’n rhoi sylw i TAW ar gyfradd sero, datganiadau tollau, defnyddio cyfryngwr ynghyd â thrwyddedau, tystysgrifau ac awdurdodiadau
- Cyfrifoldebau masnachwyr wrth ddefnyddio cyfryngwyr – cyfrifoldebau’ch cleientiaid wrth ddefnyddio cyfryngwyr i gwblhau datganiadau mewnforio neu allforio
- Mewnforio bwyd a diod, a chynhyrchion anifeiliaid o'r UE i Brydain Fawr – gweminarau DEFRA am newidiadau sydd ar ddod a sut i gofrestru a defnyddio system fewnforio IPAFFS (Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a System Bwydo Anifeiliaid)
Gallwch hefyd ddod o hyd i weminarau a fideos gan adrannau eraill o Lywodraeth y DU ar fasnachu gyda’r UE.
Gwybodaeth ddefnyddiol
Lawrlwythwch y rhestr wirio i fansnachwyr, darllenwch ganllawiau wedi'u diweddaru neu ewch i fforymau cwsmeriaid CThEM.
Cofrestrwch ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr os ydych chi’n symud nwyddau rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Cewch hefyd fynediad at fodiwlau hyfforddiant ar-lein a gweminarau sy’n cynnig cymorth gyda Phrotocol Gogledd Iwerddon.