BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cadwch yn ddiogel yn y gwaith wrth i fisoedd y gaeaf gyrraedd

Gyda thymheredd is a llai o olau dydd, mae damweiniau trwy lithro neu faglu yn y gwaith yn debygol o ddigwydd yn amlach yn ystod y misoedd nesaf.

Mae arwynebau'n gallu bod yn beryglus yr adeg hon o'r flwyddyn – mae digon o ffactorau tymhorol i'w hystyried wrth osgoi'r mathau hyn o ddamweiniau.
Gall golau gwael, gormodedd o ddŵr o law, a hyd yn oed dail gwlyb a phydredig achosi i nifer y damweiniau trwy lithro neu faglu i gynyddu'n sylweddol. 

Mae llithro a baglu yn achosi dros draean o'r holl anafiadau mawr a gall hefyd arwain at fathau eraill o ddamweiniau, fel cwympiadau o uchder neu i mewn i beiriannau.

Mae canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar lithro a baglu yn rhoi digon o wybodaeth ac adnoddau ar sut i osgoi'r damweiniau hyn yn y gweithle.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol Slips and trips - HSE - Slips and trips - HSE a Slips and trips - Icy conditions and winter weather (hse.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.