Mae gan fusnes ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau iechyd a diogelwch ei staff, gwirfoddolwyr, contractwyr a defnyddwyr.
Ar yr adeg hon o'r flwyddyn gall arwynebau fod yn beryglus, sy'n golygu bod damweiniau llithro a baglu yn debygol o ddigwydd yn amlach.
Gall goleuo gwael, gormodedd o ddŵr glaw a hyd yn oed dail gwlyb a dail sy’n pydru i gyd achosi i ddamweiniau llithro a baglu gynyddu'n sylweddol.
Mae llithro a baglu yn achosi dros draean o'r holl anafiadau mawr, a gallant hefyd arwain at fathau eraill o ddamweiniau, megis syrthio o uchder neu i mewn i beiriannau.
Mae digon o ffactorau tymhorol i'w hystyried wrth osgoi'r mathau hyn o ddamweiniau. Gallwch ddarllen y canllawiau ar atal llithro a baglu yn ystod tywydd y gaeaf gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Mae eu canllawiau cyffredinol ar lithro a baglu hefyd yn darparu llawer o wybodaeth ac adnoddau ar sut i osgoi'r damweiniau hyn yn y gweithle a'r cyffiniau.