BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cael profion llif unffordd COVID-19 cyflym os nad oes gennych symptomau

Mae’r rheini sy’n methu gweithio gartref yn cael eu hannog i gael pecynnau hunan-brofi dyfeisiau llif unffordd wrth iddynt gael eu cyflwyno ar draws Cymru.

Bydd y pecynnau profi cyflym hyn ar gyfer y coronafeirws ar gael i’w casglu o safleoedd profi lleol ledled Cymru o ddydd Gwener 16 Ebrill 2021 ymlaen. Gallwch gael pecynnau profi ar gyfer chi eich hun a’ch aelwyd.

Caniateir i bob person gasglu 2 becyn o 7 prawf llif unffordd i’w defnyddio gartref. Nid oes angen apwyntiad arnoch. Mae canolfannau prawf ar agor i’w casglu 7 diwrnod yr wythnos.

Dim ond ar gyfer pobl heb symptomau’r coronafeirws y mae’r profion llif unffordd cyflym. Os oes gennych symptomau COVID-19, mae angen i chi drefnu prawf PCR.

Am ragor o wybodaeth am ble i gasglu’r prawf, ewch i wefan Llyw.Cymru 

Gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd ar-lein

O ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen, bydd gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd a fydd yn cael ei ddanfon yn syth i’w cartref.

Gall pobl archebu prawf yma: https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau

Bydd sicrhau bod mwy o brofion llif unffordd ar gael yn golygu bod profion asymptomatig rheolaidd ar gyfer y coronafeirws yn fwy cyfleus a hygyrch i bobl nad ydynt yn rhan o gynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Mae hunanbrofion llif unffordd hefyd ar gael i’w casglu o rai safleoedd profi ledled Cymru. Nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae manylion y safleoedd casglu a’u hamseroedd agor ar gael yma: https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.