Codi ymwybyddiaeth a rhoi gwybod am bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern a cham-fanteisio.
Mae Strategaeth Orfodi Marchnad Lafur y DU 2023 i 2024 wedi nodi bod y sector gofal yn sector risg uchel o ran diffyg cydymffurfiaeth yn y farchnad lafur. Mae hyn yn cynnwys caethwasiaeth fodern a mathau eraill o gam-drin gweithwyr, gan beri risg i weithwyr ac i bobl sy'n derbyn gofal.
Gall arwyddion caethwasiaeth fodern fod yn anodd eu gweld. Fodd bynnag, mae arwyddion posibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau sy'n cynnwys:
- Cyflwyniad
- Beth yw caethwasiaeth fodern?
- Beth yw arwyddion caethwasiaeth fodern?
- Camddealltwriaeth a chamsyniadau cyffredin
- Beth allwch chi ei wneud os ydych chi'n amau bod gweithwyr gofal yn cael eu hecsbloetio
- Os ydych chi'n weithiwr o dramor ac eisiau cwestiynu eich amodau gwaith
- Darparwyr gofal cymdeithasol sy'n cyflogi (neu sydd eisiau cyflogi) gweithwyr o dramor
- Chwythu’r chwiban
- Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Caethwasiaeth fodern a cham-drin gweithwyr ym maes gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU