Mae'r Adran Masnach Ryngwladol yn Iwerddon yn cynnal gweminar i gwmnïau'r DU glywed am arfer gorau wrth wneud cais am gontractau sector cyhoeddus yn Iwerddon.
Mae caffael yn flaenoriaeth allweddol yn Rhaglen Lywodraethu Iwerddon – disgwylir i'r broses o brynu cyflenwadau, gwasanaethau a gwaith gan sector cyhoeddus Iwerddon fod yn werth €33 biliwn yn 2021, a €150 biliwn dros y 5 mlynedd nesaf. Mae gan Iwerddon dros 3,000 o Awdurdodau Contractio, sy'n cwmpasu adrannau'n llywodraeth ac awdurdodau lleol, cwmnïau masnachol y wladwriaeth, elusennau, cyrff y wladwriaeth, a grwpiau lleol a chymunedol.
Cynhelir y gweminar ar 11 Mai 2021 am 10 y bore, a bydd yn rhoi sylw i:
- cyflwyniad i dendro
- cydymffurfio ar gyfer trydydd gwledydd
- cynghorion da ar gyfer ysgrifennu ceisiadau
- gwerthuso ceisiadau
Bydd cyfle i gael sesiwn holi ac ateb fer ar y diwedd hefyd.
Gallwch gofrestru eich diddordeb i fynychu'r gweminar erbyn 5pm ddydd Mawrth 4 Mai drwy'r ddolen ganlynol: