BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cam 3 IETF: Gwanwyn 2024

Engineer standing by wind turbines

Mae’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) yn cefnogi datblygu a defnyddio technolegau sy’n galluogi busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i symud tuag at ddyfodol carbon isel.

Mae Cam 3 IETF yn darparu cyllid grant ar gyfer y mathau canlynol o brosiectau:

  • astudiaethau – astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg i alluogi cwmnïau i ymchwilio i brosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio a nodwyd, cyn gwneud penderfyniad i fuddsoddi
  • effeithlonrwydd ynni – defnyddio technolegau i leihau’r defnydd o ynni mewn diwydiant
  • datgarboneiddio – defnyddio technolegau i gyflawni arbedion ar allyriadau diwydiannol

Cyllideb gyffredinol Cam 3 IETF yw £185 miliwn, ac mae’r gystadleuaeth yn agored i fusnesau o unrhyw faint sydd â safle cymwys yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Cynhelir cystadleuaeth Gwanwyn 2024 rhwng dydd Llun 29 Ionawr a dydd Gwener 19 Ebrill 2024.

Cofrestrwch ar gyfer gweminar friffio rhanddeiliaid IETF (IETF stakeholder briefing webinar) a gynhelir ddydd Mawrth 6 Chwefror 2024, 10am tan 12pm.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Industrial Energy Transformation Fund - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.