Gall y gorchymyn i aros gartref achosi gorbryder i’r rhai sy’n profi neu’n teimlo eu bod mewn perygl o gam-drin domestig.
Fel cyflogwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig tuag at sicrhau staff y gallant adael eu cartrefi os ydyn nhw’n dioddef cam-drin domestig a bod cymorth ar gael, gan gynnwys cymorth ar-lein, llinellau cymorth, llochesi a’r heddlu.
Gall Byw Heb Ofn gynnig cymorth a chyngor i:
- unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig
- unrhyw un sy’n gwybod am rywun sydd angen cymorth, er enghraifft ffrind, perthynas neu gydweithiwr
- ymarferwyr sydd angen cyngor proffesiynol
Bydd pob sgwrs gyda Byw Heb Ofn yn gyfrinachol a gallwch gysylltu â’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos fel a ganlyn:
- ffôn – 0808 80 10 800
- testun – 07860077333
- e-bost – info@livefearfreehelpline.wales
- gwasanaeth sgwrsio byw
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.