Mae moderneiddio a symleiddio’r prosesau ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith yng Nghymru wrth wraidd bil newydd sy’n cael ei osod heddiw (dydd Llun, 12 Mehefin 2023).
Disgrifiodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, fod y Bil Seilwaith (Cymru) newydd yn 'gam pwysig' tuag at gyflawni targedau ynni adnewyddadwy wrth i Gymru symud tuag at gyflawni ein targed sero net erbyn 2050.
Mae’r cynigion yn y Bil yn cefnogi sawl ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ‘adeiladu economi gryfach a gwyrddach’ ac ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.
Datblygwyd y Bil gyda sawl nod allweddol mewn cof:
- Bydd yn sicrhau proses symlach ac unedig a fydd yn helpu datblygwyr i gael mynediad i 'siop un stop' ar gyfer caniatadau, cydsyniadau, trwyddedau a gofynion eraill sy’n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd o dan gyfundrefnau cydsynio gwahanol.
- Bydd hefyd yn cynnig proses dryloyw, drylwyr a chyson, a fydd yn caniatáu i gymunedau lleol gymryd rhan yn effeithiol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, a’u deall yn well.
- Bydd yn sicrhau bod prosesau cydsynio newydd yn gallu ymateb i heriau'r dyfodol mewn modd amserol drwy fod yn ddigon hyblyg i gynnwys technolegau newydd a rhai sy’n datblygu, yn ogystal ag unrhyw bwerau cydsynio pellach a allai gael eu datganoli i Gymru.