BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd

A Girl Putting Soil In A Pot

Mae Camau Cynaliadwy Cymru – Gyrfaoedd Gwyrdd yn gyfle am gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae swm y cyllid sydd ar gael rhwng £20,001 a thua £3,000,000.

Mae’r cyllid ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar gynorthwyo pobl ifanc ag anableddau a/neu bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol. Y nod yw annog amrywiaeth mewn gyrfaoedd gwyrdd trwy roi help llaw i’r grwpiau hyn sydd wedi’u tangynrychioli.

Gallai enghreifftiau o yrfaoedd gwyrdd amrywio o fod yn gynorthwyydd gweinyddol i ymgynghorydd amgylcheddol, i goginio mewn caffi dim gwastraff, neu fod yn beiriannydd dan hyfforddiant i gwmni ynni adnewyddadwy.

Dylai’r prosiectau helpu pobl ifanc i:

  • ddatblygu eu hyder
  • addysgu sgiliau newydd iddynt – gallai hyn gynnwys sgiliau cymdeithasol a thechnegol
  • cael profiad a lleoliadau gwaith a allai arwain at gyfleoedd tymor hwy

I gael cyllid, mae’n rhaid eich bod eisiau gweithio mewn partneriaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 5pm ddydd Iau, 30 Ebrill 2024.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Camau Cynaliadwy Cymru: Gyrfaoedd Gwyrdd | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (tnlcommunityfund.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.