Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd ar gyfer y fferm wynt arnofiol gyntaf yn nyfroedd Cymru, 40km oddi wrth arfordir Sir Benfro.
Bydd prosiect Erebus yn gosod saith tyrbin cenhedlaeth nesaf, 14 megawat, ar blatfformau sy'n arnofio. Byddan nhw'n darparu digon o ynni carbon isel ar gyfer 93,000 o gartrefi.
Mae Erebus yn rhan o gam cyntaf datblygiad ynni adnewyddadwy pedwar gigawat yn y Môr Celtaidd – digon i ddarparu pŵer ar gyfer pedair miliwn o gartrefi.
Gallai camau'r datblygiad yn y dyfodol ddarparu 20 gigawat o ynni adnewyddadwy, a fydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni'n pweru ein cartrefi a'n busnesau.
Ar hyn o bryd mae Blue Gem Wind, y fenter ar y cyd rhwng TotalEnergies a'r Simply Blue Group, ar y trywydd cywir i ddechrau gweithredu prosiect 100MW Erebus yn 2026.
Mae'r prosiect yn rhan o'r broses o newid o system ynni sy'n dibynnu ar danwyddau ffosil drud, a bydd yn cyfrannu at dargedau ynni Llywodraeth Cymru ac at wella ein diogelwch ynni.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Caniatâd yn cael ei roi ar gyfer fferm wynt arnofiol gyntaf Cymru | LLYW.CYMRU