BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllaw ‘Making business finance work for you’

Male Craftsman In Carpentry Workshop For Bamboo Bicycles Doing Accounts On Laptop

Mae Banc Busnes Prydain wedi lansio canllaw newydd ‘Making business finance work for you’, sydd wedi’i anelu at fusnesau llai o faint i’w helpu i ddeall sut y gall gwahanol gynhyrchion ariannol eu cefnogi ar bob cam o’u datblygiad.

Mae’n rhoi sylw i’r saith her fwyaf cyffredin y gallai busnesau eu hwynebu, a’r mathau o gyllid a allai helpu i’w gwrthsefyll:

  • Dechrau busnes 
  • Ymchwil a datblygu 
  • Mewnforio ac allforio nwyddau a gwasanaethau 
  • Diogelu llif arian a chyfalaf gweithio
  • Cydgrynhoi dyledion
  • Prynu asedau mawr
  • Tyfu busnes

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: British Business Bank (british-business-bank.co.uk) 

Gall fod yn anodd gwybod lle i fynd i ddod o hyd i gyllid a dewis y math cywir o gyllid.

Mae ein parth cyllid yma i’ch helpu. Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes, darllenwch ganllawiau sy'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid, chwiliwch am wybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr a darllenwch am Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru: Canfod Cyllid | Drupal (gov.wales) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.