Mae canllaw newydd Hyderus o ran Anabledd i reolwyr sy’n eu helpu i recriwtio, cadw, a meithrin datblygiad pobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd yn y gweithle wedi’i gyhoeddi gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cydweithio â’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) i ddatblygu’r canllawiau hawdd a chyflym i sicrhau bod cyflogwyr a gweithwyr yn cael y gorau o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd, i hybu cyflogaeth pobl anabl a lleihau’r bwlch cyflogaeth i bobl anabl.
Mae rhai o'r canllawiau yn cynnwys hysbysebu swyddi ar sianeli sy'n cyrraedd pobl anabl yn benodol a gweithredu addasiadau rhesymol yn y gweithle fel gweithio hyblyg a threfnu cymorth mentora un-i-un.
Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth:
- Cyflogi pobl anabl: Canllaw Hyderus o ran Anabledd a’r Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) i reolwyr
- Cynllun Hyderus o ran Anabledd i gyflogwyr - GOV.UK
Darllenwch y Canllaw Arferion Da i gael gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru.