Wrth i fusnesau lletygarwch ddechrau ailagor mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau cychwynnol i fusnesau y gofynnir iddyn nhw gofnodi a chadw data personol cwsmeriaid, staff ac ymwelwyr i gefnogi’r cynllun profi ac olrhain.
Nid oes angen i chi ddatblygu apiau arbennig nac atebion digidol – dim ond dewis y broses sydd orau i’ch busnes chi sydd raid.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn argymell y pum cam syml canlynol er mwyn sicrhau nad yw diogelu data yn rhwystro adferiad eich busnes
:
- gofynnwch am yr hyn sydd ei angen yn unig
- byddwch yn dryloyw gyda chwsmeriaid
- cadwch y data’n ofalus
- peidiwch â’i ddefnyddio at unrhyw ddiben arall
- dylech ddileu’r data gan ddilyn canllawiau’r llywodraeth
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Hyb Diogelu Data a Coronafeirws Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth dîm o arbenigwyr hefyd sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth drwy linell gymorth i fusnesau bach.