Rydym yn ymwybodol y gallai fod angen cymorth ar fusnesau i gwblhau Hysbysiadau Cyn-byrddio Cyllid Iwerddon (PBN) gan ddefnyddio eu system ar-lein.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae Cyllid Iwerddon wedi cyhoeddi nifer o nodiadau canllaw, gan gynnwys canllaw defnyddiwr ar gyfer hysbysiadau PBN.
Sylwch – os oes angen help arnoch gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â PBN gallwch gysylltu â Chyllid Iwerddon am gymorth drwy:
- eu Llinell Gymorth Tollau Tramor 24/7, ar 00 353 1 7383685
- y blwch post pwrpasol canlynol: customsPBN@revenue.ie
Darllenwch y canllaw Hysbysiad Cyn-Byrddio (PBN) neu edrychwch ar y canllawiau fideo ar wefan revenue.ie.
Darllenwch y taflenni Canllawiau Tollau ar gyfer gyrwyr sy'n cyrraedd porthladdoedd Dulyn a Rosslare.
Ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor a chanllawiau pwysig ar gyfer busnesau.