Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gyhoeddi’r canllawiau a’r wybodaeth ddiweddaraf sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, ynghyd â diweddaru cynnwys oedd wedi’i gyhoeddi’n flaenorol.
Mae hyn yn cynnwys:
- Awyru ac aerdymheru – gall awyru digonol (gan gynnwys aerdymheru) helpu i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws.
- Diogelu gweithwyr o gartref – cyngor ar weithio ar eich pen eich hun heb oruchwyliaeth, cyfarpar sgrin arddangos a straen.
- Hylif diheintio dwylo a diheintydd arwyneb – canllawiau i gyflogwyr sy’n darparu hylif diheintio dwylo ar gyfer eu gweithwyr ac eraill i’w defnyddio yn eu gweithleoedd.
- Diweddaru'ch asesiadau risg Covid-19 – ar gyfer popeth rydych chi angen ei ystyried a’r camau y dylech chi eu cymryd i reoli’r risgiau ac atal lledaeniad y feirws.
Am yr holl wybodaeth a chyngor ar Covid-19 sydd ar gael, ewch i dudalennau coronafeirws yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.