Gall pobl sy’n gweithio ar eu pen eu hunain fod mewn perygl o niwed oherwydd efallai na fydd ganddyn nhw rywun i’w helpu os oes rhywbeth yn mynd o’i le.
Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, monitro a chymorth i’r rheini sy’n gweithio ar eu pen eu hunain.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau i unrhyw un sy’n cyflogi pobl sy’n gweithio ar eu pen eu hunain neu’n eu defnyddio fel contractwyr. Mae’n cynnwys cymorth ar drais cysylltiedig â gwaith, cadw mewn cysylltiad ac effaith gweithio ar eich pen eich hun ar straen ac iechyd meddwl.
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael rhagor o wybodaeth.