BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau ar weithio mewn tywydd oer a gaeafol

person clearing snow

Gwnewch yn siŵr eich bod yn amddiffyn gweithwyr yn ystod tymheredd isel ac amodau gaeafol.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi diweddaru eu canllawiau er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i gyngor ar sut i ddiogelu gweithwyr mewn tymheredd isel a'i ddeall.

Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar gyfer gweithio yn yr awyr agored.

Mae hefyd yn esbonio sut gallwch asesu’r risgiau i weithwyr a rhoi rheolaethau ar waith i’w diogelu.

Gyda thymheredd isel a llai o olau dydd, gall y gaeaf wneud arwynebau'n beryglus.

O ganlyniad, mae damweiniau llithro a baglu yn cynyddu'n sylweddol. Edrychwch ar ganllaw ar-lein HSE i osgoi llithro a baglu yn ystod tywydd gaeafol


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.