BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau busnes newydd i hybu sgiliau a datgloi buddion Deallusrwydd Artiffisial

Work colleagues looking

Bydd canllawiau drafft newydd, Sgiliau Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Busnes, yn helpu busnesau i fanteisio ar botensial enfawr Deallusrwydd Artiffisial ar draws eu gweithlu, i uwchsgilio eu gweithwyr â’r offer y mae arnynt eu hangen ar gyfer swyddi ochr yn ochr â Deallusrwydd Artiffisial, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â rhaglen BridgeAI Innovate UK a Sefydliad Alan Turing.

Bwriedir i’r canllawiau helpu cyflogwyr i gynyddu dealltwriaeth eu cyflogeion o Ddeallusrwydd Artiffisial fel y gallant ei ddefnyddio’n ddiogel yn eu rôl dydd i ddydd, trwy amlinellu’r wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau allweddol a ddylai fod ganddynt i elwa o fuddion Deallusrwydd Artiffisial yn ddiogel – gan gynnwys sut i ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial yn effeithiol fel Modelau Iaith Mawr a rheoli data sensitif yn ddiogel.

Er mwyn sicrhau bod y canllawiau’n ddefnyddiol i sefydliadau ar draws economi’r Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ceisio safbwyntiau ar draws cymuned arbenigol y wlad.

Bydd cyfle i gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant wneud sylwadau ar y canllawiau trwy Sefydliad Alan Turing tan 7 Ionawr 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol ar y Canllawiau Sgiliau Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Busnes: Feedback Consultation Call from The Alan Turing Institute - Innovate UK KTN (ktn-uk.org)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.