BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gyflogwyr ar adrodd am rwymedigaethau ar gyfer taliadau a wneir yn gynnar adeg y Nadolig

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn gwybod bod rhai cyflogwyr yn talu eu gweithwyr yn gynt nag arfer dros gyfnod y Nadolig, er enghraifft, efallai fod y busnes yn cau ar gyfer y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Os ydych chi'n talu'n gynnar, nodwch eich dyddiad talu arferol ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS).

Er enghraifft: os ydych chi'n talu ar 18 Rhagfyr 2020 ond eich dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr 2020, nodwch y dyddiad talu fel '31 Rhagfyr 2020'. Yn yr enghraifft hon, byddai angen anfon yr FPS ar neu cyn 31 Rhagfyr 2020.

Bydd gwneud hyn yn helpu i ddiogelu cymhwysedd eich gweithwyr i gael Credyd Cynhwysol, gan y gallai adrodd am daliad cynnar effeithio ar hawliau pellach.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.