BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau gwirio ID wedi'u diweddaru yn unol â rheolau newydd hawl i weithio

O 1 Gorffennaf 2021, bydd rheolau newydd ar gyfer gwiriadau hawl i weithio yn berthnasol. Bydd angen i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir ddarparu tystiolaeth o statws mewnfudo cyfreithlon yn y DU.

Mewn ymateb i'r newidiadau hyn, mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) wedi diweddaru'r canllawiau gwirio manylion adnabod (ID) ar gyfer:

  • Gwiriadau DBS sylfaenol, a gyflwynir drwy Sefydliad Cyfrifol.
  • Gwiriadau DBS Safonol a Manylach.

Mae’r canllawiau ar wiriad ID sylfaenol y DBS wedi’i ddiweddaru ar gael yma.

Mae'r canllawiau ID diweddaraf ar gyfer gwiriadau DBS Safonol a Manylach ar gael yma.

Daw'r canllawiau newydd i rym o 1 Gorffennaf 2021, ond efallai y bydd angen amser ar rai Cyrff Cofrestredig a Sefydliadau Cyfrifol i wneud newidiadau technegol i'w systemau ar-lein.

Yng ngoleuni hyn, bydd y canllawiau gwirio ID presennol yn parhau ar GOV.UK ochr yn ochr â'r canllawiau newydd, tan 1 Hydref 2021, a gellir defnyddio'r naill fersiwn neu'r llall hyd at y dyddiad hwn.

Am ragor o wybodaeth ewch i GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.