Mae Llywodraeth y DU wedi lansio pecyn cymorth Hawliau Teithwyr ar gyfer gweithredwyr morol.
Mae’r pecyn yn darparu arweiniad lefel uchel i weithredwyr yng Nghymru a Lloegr ar yr hyn y mae’n rhaid iddynt ei wneud i gydymffurfio â rheoliadau hawliau teithwyr, yn ogystal ag argymhellion ar sut y gellir gwneud trafnidiaeth forol yn fwy hygyrch.
Bydd yn berthnasol i wasanaethau megis fferis, ac mae’n gwneud argymhellion ynghylch sut y gellir gwneud teithio ar y môr yn fwy hygyrch er mwyn gwneud siwrneiau’n well i deithwyr a staff anabl.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.