Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i fusnesau sy'n ystyried cynnig cyflogaeth i bobl sy'n dod i'r DU o'r Wcráin.
Os byddwch yn cynnig cyfleoedd gwaith, bydd angen i chi lenwi’r holiadur gwybodaeth am swyddi gwag ar ôl i chi ddychwelyd yr holiadur at offerwork@homeoffice.gov.uk .Bydd y Tîm Cyflogwyr a Phartneriaeth Cenedlaethol yn cysylltu â'ch sefydliad yn yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 5 diwrnod gwaith, i drafod y rolau sydd ar gael.
Yna, caiff cyfleoedd am swyddi eu rhannu ar draws rhwydwaith Canolfan Byd Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau a gyda'r Rhwydwaith Cyflogaeth Ffoaduriaid (REN), sef elusen sy'n gweithio gyda sefydliadau ledled y DU i gynorthwyo ffoaduriaid i gael gwaith.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Guidance for businesses offering work to people coming from Ukraine - GOV.UK (www.gov.uk)
Hefyd, mae gan Lywodraeth Cymru wybodaeth a chyngor ar sut y gallwch helpu pobl yr Wcráin. Darganfyddwch fwy ar: Sut y gallwch chi helpu pobl yr Wcráin | LLYW.CYMRU