Mae’r Comisiwn Elusennau, y rheoleiddiwr elusennau yng Nghymru a Lloegr, wedi lansio cyfres newydd o ganllawiau syml, hawdd i’w deall, gyda’r nod o helpu ymddiriedolwyr i redeg eu helusennau yn unol â’r gyfraith.
Mae’r canllawiau newydd yn trafod pum elfen allweddol rheoli elusen – sef ‘maes llafur craidd’ sy’n ymdrin â’r hanfodion y mae rheoleiddiwr yn disgwyl i bob ymddiriedolwr fod yn ymwybodol ohonynt.
Maent yn egluro hanfodion:
- trosolwg ariannol
- cyflawni diben elusen
- gwneud penderfyniadau da
- mynd i'r afael â gwrthdaro buddiannau
- beth i'w ffeilio gyda'r Comisiwn a pha gymorth sydd ar gael
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.