BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd ar fynd i’r afael ag aflonyddu yn y gweithle

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi paratoi canllawiau newydd ar fynd i’r afael ag aflonyddu yn y gweithle. Mae gan bob cyflogwr ddyletswydd gofal i amddiffyn ei weithwyr a bydd yn atebol yn gyfreithiol am achosion o aflonyddu yn y gweithle os nad yw wedi cymryd camau rhesymol i’w hatal.

Mae Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith: canllaw technegol a’r canllaw cysylltiedig Atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith: canllaw i gyflogwyr yn nodi saith cam y gall cyflogwyr eu dilyn i sicrhau eu bod yn gwneud popeth posibl i atal achosion o aflonyddu rhywiol yn y gweithle a delio â nhw:

  • datblygu polisi gwrth-aflonyddu effeithiol 
  • ymgysylltu â’ch staff 
  • asesu a chymryd camau i leihau risgiau yn eich gweithle 
  • meddwl am systemau adrodd 
  • darparu hyfforddiant 
  • gwybod beth i’w wneud pan wneir cwyn 
  • trin aflonyddu gan drydydd parti yr un mor ddifrifol â phe bai gan gydweithiwr

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.