BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd Cyfnod Pontio’r DU ar gyfer busnesau Bwyd a Diod

Allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid i’r DU o 1 Ionawr: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar gyfer partneriaid masnach sydd eisiau gwneud cais i allforio neu sydd wedi’u cymeradwyo i allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid i’r DU. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Allforio neu symud bwyd a phorthiant risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid i’r UE neu Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar allforio neu symud bwyd a phorthiant risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i’r UE neu Ogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Fitaminau a mwynau mewn bwydydd o 1 Ionawr: Canllawiau ar fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol y gellid eu hychwanegu at fwydydd ym Mhrydain Fawr, o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Hawliadau maeth ac iechyd o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar y gofrestr hawliadau maeth ac iechyd a hawliadau y gellid eu gwneud mewn deunydd cyfathrebu masnachol ym Mhrydain Fawr, o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Hawliadau iechyd ‘wedi’u hoedi’ ar fwydydd o 1 Ionawr 2021: Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi ar sut i ddefnyddio hawliadau iechyd ‘wedi’u hoedi’ sy’n parhau i gael eu hystyried yn yr UE, ym Mhrydain Fawr, o 1 Ionawr 2021. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Beth am fynd i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig ar gyfer busnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.