BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd EHRC - Cyfrifoldeb cyfreithiol manwerthwyr at eu cwsmeriaid anabl

Mewn ymateb i bryderon cynyddol ynghylch hygyrchedd archfarchnadoedd a manwerthwyr cyn ail don bosibl o gyfyngiadau, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi cyhoeddi canllawiau newydd i helpu'r diwydiant i gynorthwyo cwsmeriaid anabl yn well yn ystod y pandemig.

Mae'r canllawiau newydd yn amlinellu rhwymedigaethau cyfreithiol manwerthwyr i helpu cwsmeriaid anabl ac mae'n cynnwys ffeithluniau i sicrhau bod manwerthwyr yn glir ynghylch eu rhwymedigaethau:

  • darparu gwasanaeth sy'n diwallu anghenion pob cwsmer – rhagweld, paratoi a gwneud addasiadau rhesymol i gwsmeriaid anabl
  • cynllunio ymlaen llaw i feddwl am anghenion eich cwsmeriaid anabl – ystyried a gwneud newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau, yn ogystal â darparu cymorth ac offer ychwanegol, lle bo angen
  • cyfathrebu â'ch cwsmeriaid – rhoi gwybod i gwsmeriaid sut y byddwch yn eu helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd fel arwyddion hawdd eu darllen a chyhoeddiadau llafar
  • hyfforddi eich staff – sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi gyda'r offer cywir i helpu cwsmeriaid anabl, yn unol â chanllawiau diweddaraf y llywodraeth ar y coronafeirws (COVID-19)

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan ERHC.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.