BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd i gyflogwyr ar Bwydo ar y Fron a’r Gweithle

Fel rhan o Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd, 1 i 7 August 2023, mae Cymru Iach ar Waith yn lansio canllawiau gwefan newydd i gyflogwyr ar “Bwydo ar y Fron a’r Gweithle”.

Gall cefnogi gweithwyr sy’n bwydo ar y fron ddod â nifer o fanteision i gyflogwyr, gan gynnwys: 

  • Llesiant gweithwyr
  • Denu a chadw talent
  • Hyrwyddo delwedd gyhoeddus gadarnhaol sefydliad
  • Arbedion cost

Mae'r adran newydd yn esbonio'r manteision hyn yn fanylach ac yn rhoi cyngor i gyflogwyr ar eu rhwymedigaethau cyfreithiol ac arferion da yn y maes hwn (gan gynnwys astudiaeth achos).

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Bwydo ar y Fron a'r Gweithle - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.