BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd i helpu cyflogwyr i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi gweithio gyda'r CIPD i gyhoeddi canllawiau newydd i gyflogwyr ar sut i adnabod a chefnogi staff sy'n profi cam-drin domestig.

Yn sgil pandemig y coronafeirws, gall dioddefwyr fod â llawer llai o lwybrau dianc neu amser ar wahân oddi wrth y camdriniwr. O ganlyniad, mae angen i gyflogwyr ystyried ymhellach y cymorth y gallant ei gynnig i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig.

Nid oes disgwyl i gyflogwyr 'ddatrys' y broblem, dim ond galluogi eu gweithwyr i gael cymorth proffesiynol.

Mae'r canllaw, 'Managing and supporting employees experiencing domestic abuse', yn nodi fframwaith o sut y gallai cymorth i gyflogwyr edrych:

  • cydnabod y broblem
  • ymateb yn briodol i unrhyw ddatgeliad
  • darparu cymorth
  • cyfeirio at gymorth priodol

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i CIPD.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.