BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau Seiberddiogelwch y Gadwyn Gyflenwi

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n disgrifio camau ymarferol i helpu sefydliadau i asesu seiberddiogelwch yn eu cadwyni cyflenwi.

Mae wedi'i anelu at sefydliadau canolig i fawr sydd angen magu hyder neu sicrwydd bod camau lliniaru ar waith ar gyfer gwendidau sy'n gysylltiedig â gweithio gyda chyflenwyr.

Yn fwy penodol, mae'r canllawiau: 

  • yn disgrifio perthnasoedd nodweddiadol â chyflenwyr, a ffyrdd y mae sefydliadau'n agored i fregusrwydd ac ymosodiadau seiber drwy'r gadwyn gyflenwi
  • yn diffinio canlyniadau disgwyliedig a chamau allweddol i'ch helpu i asesu ymagwedd eich cadwyn gyflenwi at seiberddiogelwch
  • yn ateb cwestiynau cyffredin y gallwch ddod ar eu traws wrth i chi weithio drwy'r canllawiau
  • yn ategu Egwyddorion y Gadwyn Gyflenwi NCSC (a gyhoeddwyd yn 2020) y cyfeirir atynt drwyddi draw

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.ncsc.gov.uk/collection/assess-supply-chain-cyber-security 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.