Os ydych chi eisiau allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o’r DU, rhaid i chi enwebu rhywun i lofnodi tystysgrif iechyd allforio.
Bydd yr unigolyn yn filfeddyg swyddogol neu weithiau’n arolygydd gydag awdurdod lleol (swyddog iechyd yr amgylchedd fel rheol). Bydd yn gwirio bod eich llwyth yn bodloni gofynion iechyd y wlad mae’n mynd iddi.
Am ragor o wybodaeth a’r rhestr ddiweddaraf o filfeddygon ac arolygwyr awdurdodau lleol sy’n gallu ardystio eich llwyth, ewch i wefan GOV.UK.
Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i beth rydych chi ei angen, holwch eich milfeddyg lleol neu anfon e-bost i csconehealthovteam@apha.gov.uk