Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi pecyn cymorth wedi’i ddiweddaru i gyflogwyr, sy’n cynnig cyngor ac arweiniad clir ar gamau y gall cyflogwyr eu cymryd i atal gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd a mamolaeth yn y gwaith.
Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddiweddaru yn amlinellu’r newidiadau penodol y bydd yn rhaid i gyflogwyr eu gwneud, yn unol â’r deddfau gweithio hyblyg newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2024. Mae'r rhain yn cynnwys:
- ymestyn y mesurau gwarchod rhag diswyddo i fenywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir
- cynnig cyflogaeth amgen addas i fenywod beichiog a’r rhai sydd ar absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir mewn sefyllfaoedd dileu swyddi, â blaenoriaeth yn cael ei rhoi dros weithwyr eraill ar gyfer rolau amgen
- darparu'r gallu i ofyn am weithio hyblyg o ddiwrnod cyntaf y gyflogaeth
- gwella hyblygrwydd ar gyfer defnyddio absenoldeb tadolaeth
Mae pob cyflogwr yn cael eu hannog i ddarllen y canllawiau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n llwyr â'r gyfraith ac yn deall sut i atal gwahaniaethu yn erbyn eu gweithwyr.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Beichiogrwydd a mamolaeth: beichiogrwydd | EHRC (equalityhumanrights.com)