Wrth i'r gaeaf gydio, gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gadw pobl mor gyfforddus â phosibl wrth weithio yn yr oerfel.
Mae'r canllawiau wedi cael eu hadnewyddu er mwyn ei gwneud hi'n haws canfod a deall cyngor ar sut i ddiogelu gweithwyr mewn tymereddau isel ac uchel.
Mae Rheoliadau'r Gweithle (Iechyd, Diogelwch a Lles) yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ddarparu tymheredd rhesymol dan do yn y gweithle.
Mae'r canllawiau’n esbonio sut y gallwch asesu'r risgiau i weithwyr a rhoi rheolaethau ar waith i’w diogelu.
Mae rhestr wirio tymheredd yn y gweithle ar gael i'ch helpu i gynnal asesiad risg sylfaenol. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd wedi diweddaru ffynonellau cyngor, gan gynnwys camau ymarferol y gallwch eu cymryd ym misoedd yr haf i ddiogelu gweithwyr yn ystod tywydd poeth.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Temperature (hse.gov.uk)