BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllaw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gyfer busnesau

Gall anadlu llwch, nwyon, anwedd a mygdarth yn y gweithle achosi clefyd yr ysgyfaint all newid bywydau, neu wneud cyflyrau presennol yn waeth.

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi llunio canllawiau ar ddiogelu gweithwyr sy’n gweithio ym meysydd:

  • adeiladu
  • weldio
  • gwaith cerrig
  • gweithgynhyrchu sment a choncrit
  • gwaith coed
  • pobi a melino
  • chwareli

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan HSE.

Mae rhai diwydiannau yn fwy peryglus na’i gilydd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diogelu’ch gweithwyr drwy ddefnyddio'r canllawiau penodol i ddiwydiant.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.