Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24 miliwn i adfywio canol trefi Cymru sy'n cynnwys:
- £18.4 miliwn o gyllid benthyciad Trawsnewid Trefi yn rhoi bywyd newydd i eiddo hen a gwag.
- £3.34 miliwn yn helpu busnesau'r stryd fawr i dyfu a chroesawu technoleg ddigidol arloesol a fydd yn helpu eu busnes i ffynnu fel rhan o Flwyddyn Trefi SMART.
- £3 miliwn ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gymell mwy o fusnesau yng Ngogledd Cymru i leoli yng nghanol trefi.
Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru.