BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canolfan Wybodaeth i Gyfarwyddwyr

Mae'r Gwasanaeth Ansolfedd wedi lansio canolfan wybodaeth ar-lein newydd i gefnogi cyfarwyddwyr cwmnïau.

Mae'r ganolfan yn cynnal canllawiau a gwybodaeth am ystod o themâu busnes sy'n wynebu cwmnïau yn gyfferedin, a'i nod yw helpu cyfarwyddwyr cwmnïau i wthio eu busnes ymlaen trwy fod yn fwy ymwybodol o beryglon posibl.

Fe'i cynlluniwyd yn benodol ar gyfer cyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig micro, bach a chanolig, er y bydd hefyd yn ddefnyddiol i eraill. Rhaid i gyfarwyddwyr cwmnïau cyfyngedig, yn wahanol i unig fasnachwyr, gydymffurfio â rhwymedigaethau statudol penodol. Gall y rhain amrywio o siopau trin gwallt ac adeiladwyr gyda'u cwmnïau eu hunain, i gyfarwyddwyr cwmnïau canolig eu maint yn y sector TG, er enghraifft.

Mae enghreifftiau o'r math o gyngor sydd ar gael ar y ganolfan wybodaeth yn cynnwys:

  • deall cyllid y cwmni, dyletswyddau a rhwymedigaethau cyfarwyddwr
  • sut i adnabod arwyddion rhybudd cynnar o drallod ariannol
  • sut a phryd y gall dyledion cwmni cyfyngedig ddod yn ddyledion personol

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Director information hub - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.