BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Catalydd Creadigol 2023

Gall busnesau micro a bach cofrestredig yn y sector diwydiannau creadigol yn y DU wneud cais am gyllid hyd at £50,000 gyda pecyn cymorth i dyfu eu busnes.

Nod y gystadleuaeth hon yw cefnogi arloesedd busnes yn y diwydiannau creadigol drwy ddarparu pecyn o gymorth targedig a pharhaus i helpu busnesau i dyfu.

Rhaid bod eich prosiect yn:

  • gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol yn y DU, ac er budd y diwydiannau creadigol yn y DU
  • dangos syniad arloesol ac uchelgeisiol amlwg
  • fod yn newydd i'ch busnes, gydag effaith amlwg i'ch cynllun twf
  • creu ffrwd refeniw newydd, er enghraifft cynhyrchion, gwasanaethau neu eiddo deallusol newydd
  • ymateb i amodau'r farchnad sy'n newid, fel dulliau newydd o ddefnyddio gan  gynulleidfaoedd, neu fabwysiadu technolegau newydd o fewn y sector
  • fod yn barod ar gyfer y farchnad o fewn 12 mis o dderbyn cymorth
  • dangos gwerth am arian

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 11am ar 15 Chwefror 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Competition overview - Creative Catalyst 2023 - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.