Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion yn rhoi cymorth i fudiadau treftadaeth micro, bach a chanolig neu fudiadau sy’n cynnal prosiect treftadaeth ehangu eu ffrydiau incwm a chyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd.
Wedi’i chyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae CGGC yn rhedeg prosiect Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion mewn partneriaeth â mudiad Cwmpas, a elwid yn Ganolfan Cydweithredol Cymru cyn hyn.
Caiff y prosiect hefyd ei gefnogi gan y Tîm Cymorth Lleiafrifoedd ac leuenctid Cymru, Anabledd Cymru a Pride Cymru.
Gan ddysgu o brosiectau blaenorol Catalydd Cymru, bydd Ehangu Gorwelion yn parhau i gynnig hyfforddiant trylwyr i fudiadau treftadaeth, a mudiadau sy’n cynnal prosiectau treftadaeth yng Nghymru ar bynciau a fydd yn eu helpu i wella eu gwydnwch a’u gallu i ymdrin â newidiadau i’r amgylchedd y maen nhw’n byw ynddo (er enghraifft, yr argyfwng costau byw presennol).
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 26 Mehefin 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Catalydd Cymru: Ehangu Gorwelion - CGGC (wcva.cymru)