BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogaeth barhaus i denantiaid llety cymdeithasol rhent yng Nghymru

key in the door of a house

Y llynedd, fel rhan o'n gwaith hirdymor ehangach i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, cyhoeddais nifer o gamau i gefnogi pobl sy'n denantiaid mewn llety cymdeithasol rhent, fel rhan o gytundeb gydag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi cyhoeddi parhad o'r gefnogaeth honno gan landlordiaid cymdeithasol yn ogystal ag uchafswm newydd yn y cynnydd mewn rhent cymdeithasol o 6.7% o fis Ebrill 2024.

Mae'r setliad rhent ar gyfer 2024-25 yn golygu y darperir cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sy'n profi caledi ariannol i gael gafael ar gymorth yn ogystal â buddsoddi mewn cartrefi presennol i'w cadw'n ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy i fyw ynddynt.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cefnogaeth barhaus i denantiaid llety cymdeithasol rhent yng Nghymru | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.