Mae WRAP Cymru yn gweithio i gynorthwyo sefydliadau sector cyhoeddus Cymru trwy ymgorffori cynaliadwyedd yn eu strategaethau masnachol a’u gweithgareddau caffael.
Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario oddeutu £6 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau. Felly, mae cyfle sylweddol i gyrff cyhoeddus wneud defnydd cadarnhaol o gaffael i gyflawni deilliannau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol buddiol ac i helpu i wireddu amcanion ‘Y Gymru a Garem’ yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Prif nod y rhaglen gymorth yw gyrru’r farchnad am gynnwys eilgylch a nwyddau wedi’u hailddefnyddio, a thrwy hynny, godi ymwybyddiaeth, hyrwyddo dull mwy cynaliadwy o gaffael yn y tymor hir, a dangos, trwy arddangos enghreifftiau o arfer gorau, yr arweinyddiaeth a ddangosir gan sefydliadau'r sector cyhoeddus mewn caffael mwy cynaliadwy.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan WRAP.