Yn 2017, cynhaliodd Pwyllgor ar Newid Hinsawdd annibynnol y DU asesiad risg a ddarganfu bod angen mwy o ymchwil i ddeall effaith bosib tymereddau uwch ar fusnesau yng Nghymru. Credir bod risg y gallai busnesau wynebu tarfu ar seilwaith TGCh, pŵer a thrafnidiaeth, gan atal gweithwyr rhag cyrraedd safleoedd neu rhag gweithio o bell, ac y gallai tymereddau uwch gael effaith ar ddiogelwch a chynhyrchiant gweithwyr, ond nid oes sylfaen dystiolaeth ar gael i ddangos a yw hyn yn risg ai peidio.
Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Wavehill, cwmni ymchwil cymdeithasol ac economaidd annibynnol, i gynnal arolwg byr gyda busnesau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru. Pwrpas yr ymchwil hwn yw canfod beth yw’r ffordd orau i gefnogi busnesau i addasu i dymereddau uwch mewn amgylcheddau gweithio ac i darfu seilwaith o ganlyniad i newid hinsawdd.
Bydd yr ymchwil hwn yn darganfod beth yw’r risg a pha mor barod yw busnesau Cymreig i addasu i ddigwyddiadau tywydd eithafol a’r tarfu y byddant yn ei achosi. Wedyn, caiff yr ymchwil ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i nodi’r ffordd orau o gefnogi busnesau i wneud yr addasiadau angenrheidiol.
Wrth gwrs, mae cymryd rhan yn yr arolwg hwn yn wirfoddol, a dylai gymryd tua 10 munud i’w gwblhau. Rhoddir enwau cyfranogwyr yn yr het i ennill un o bum rhodd o £50 i elusen o’u dewis nhw.
Cliciwch yma i gwblhau’r arolwg
Am fwy o wybodaeth am yr arolwg, cysylltwch â Tom Marshall yn Wavehill tom.marshall@wavehill.com, neu Isabella Malet-Lambert yn Llywodraeth Cymru Isabella.malet-lambert@gov.wales.