Mae Llywodraeth Cymru wedi addo gefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnes eu hun wrth iddo lansio cronfa £40 miliwn ar gyfer sgiliau a swyddi.
Bydd y pecyn yn darparu:
- mwy na £20miliwn i ysgogi cyflogwyr i recriwtio a chadw 5,000 o brentisiaid, cynyddu capasiti rhaglenni hyfforddeiaeth a chefnogi mwy o raddedigion i fanteisio ar brofiad gwaith, sesiynau blasu a lleoliadau gwaith â thâl
- bron £9miliwn i helpu gweithwyr i ailhyfforddi a dod o hyd i gyflogaeth newydd, gan gynnwys mewn meysydd lle y mae galw am sgiliau, drwy ReACT a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru
- bydd mwy o gyllid ar gael ar gyfer hyfforddeiaethau, Gweithio dros Gymru a Chymunedau am Waith a Mwy i helpu i baru pobl â swyddi a hyrwyddo hunangyflogaeth a ffyrdd newydd o weithio
- bydd cymorth ar gyfer Cronfa Rhwystrau newydd, a fydd yn cynnig hyd at £2,000 i helpu pobl sydd ddim wedi ystyried hunangyflogaeth o’r blaen, yn enwedig menywod, pobl ifanc, pobl o gymunedau BAME a phobl anabl
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.