Rydyn ni'n cynllunio i brynu car neu fynd ar wyliau, felly pam nad ydyn ni'n cymryd yr un amser i gynllunio ein bywyd gwaith, ein hiechyd, neu ein llesiant ariannol yn y dyfodol?
Gall cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr dros 50 oed i gynllunio at gyfnod hwyrach eu bywydau drwy gynnig cyfle iddyn nhw fynychu Gweminarau Adolygu Canol Gyrfa, sy'n cael eu darparu yng Nghymru gan raglen Pobl Hŷn yn y Gweithle y rhwydwaith busnes cyfrifol Busnes yn y Gymuned Cymru.
Mae'r gweminarau hyn sydd am ddim ac sy'n para awr yr un, yn rhoi cyfle i fynychwyr fyfyrio am eu sefyllfa eu hunain ac ystyried anghenion y dyfodol, ac maen nhw'n darparu cyfeiriadau a gwybodaeth am waith, llesiant a chyllid a fydd yn caniatáu iddyn nhw wneud penderfyniadau gwybodus, dod yn fwy hyderus a chydnerth, a chymryd camau i greu dyfodol cadarnhaol iddyn nhw eu hunain.
Cliciwch yma i weld dyddiadau sydd ar y gorwel a chofrestru.