BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogi gweithwyr anabl gyda gweithio hybrid: Canllawiau i gyflogwyr

Wheelchair user working in an office talking to a colleague

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi adnoddau newydd i helpu cyflogwyr i ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol a’r camau ymarferol y gallant eu cymryd i gefnogi gweithwyr anabl yn y ffordd orau gyda gweithio hybrid.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar gyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt gymryd camau i ddileu, lleihau neu atal rhwystrau y mae gweithiwr anabl yn eu hwynebu. Mae gwneud yr addasiadau hyn yn creu amgylcheddau lle gall staff berfformio'n fwy effeithiol a chyflawni eu llawn botensial.

Mae'r canllawiau hyn wedi'u cynllunio ar gyfer cyflogwyr bach a chanolig fel y gallant gefnogi staff anabl gydag addasiadau rhesymol a helpu eu gweithwyr i ffynnu wrth weithio hybrid.

Mae'n rhoi awgrymiadau ymarferol ar yr hyn y gall cyflogwyr ei wneud, megis defnyddio offer asesu yn y gweithle i helpu i nodi technoleg a all helpu gweithwyr anabl sy'n gweithio'n hyblyg, a sut y gall darparu desgiau arbenigol leihau anghysur i staff â chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Gall trefniadau gweithio hybrid sydd wedi’u gweithredu’n wael greu anawsterau i staff anabl, gan gynnwys eu hynysu oddi wrth gydweithwyr, atal mynediad at y cymorth neu’r offer angenrheidiol, a chreu diwylliant sy’n brin o gynhwysiant.

Mae canllawiau’r EHRC, sy’n ymdrin â recriwtio a phob cam cyflogaeth, yn esbonio’r gyfraith i gyflogwyr ac yn darparu ysgogiadau sgwrs i sicrhau bod rheolwyr yn meithrin diwylliant lle gellir trafod addasiadau rhesymol yn agored.

Gellir cael hyd i’r canllawiau drwy glicio ar y ddolen ganlynol: Cefnogi gweithwyr anabl gyda gweithio hybrid: Canllawiau i gyflogwyr | EHRC (equalityhumanrights.com)

Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru

Darllenwch y canllaw, sydd wedi cael ei ddatblygu gan Anabledd Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ymarferol i sefydliadau cymorth busnes ac i gynghorwyr am y ffordd orau o ymgysylltu â phobl anabl sy'n dechrau, yn cynnal neu’n datblygu eu busnes yng Nghymru, a'u cefnogi: Y Canllaw Arferion Da – Cefnogi entrepreneuriaid anabl yng Nghymru | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.