BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cefnogi gweithwyr drwy'r argyfwng costau byw

Mae CIPD wedi casglu rhywfaint o wybodaeth ymarferol i gyflogwyr i gefnogi eu gweithwyr drwy'r argyfwng costau byw.

Yn erbyn cefndir o brisiau cynyddol am fwyd, ynni a nwyddau a gwasanaethau hanfodol eraill, mae llawer o gyflogwyr yn y DU yn gofyn beth y gallant ei wneud i gefnogi lles ariannol eu pobl.

Y newyddion da yw, hyd yn oed os na allwch fforddio cynnig codiadau cyflog sy'n curo chwyddiant, mae llawer y gallwch ei wneud o hyd i leddfu'r straen a'r pryder y mae eich gweithlu'n ei wynebu. Dyma'r amser i adolygu eich polisïau lles ariannol a'ch pecynnau buddion i sicrhau eu bod yn gweithio mor galed ag y gallant – yn enwedig i'r rheiny sydd fwyaf tebygol o fod yn ei chael hi'n anodd cadw dau ben llinyn ynghyd.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Supporting employees through the cost-of-living crisis | CIPD
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.